|
|||||||||
|
|
Casgliadau AMC/WAW yn Archifdy MorgannwgArchifdy Morgannwg, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward V11, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NE Ffôn: 029 2078 0282 Ffacs: 029 2078 0284 E-bost: glamro@cardiff.ac.uk Gwefan: http://www.glamro.gov.uk/ Casgliad Caroline JollMae'r casgliad hwn yn cynnwys defnyddiau yn ymwneud â Mudiad Rhyddid i Fenywod yng Nghaerdydd, a thaflenni a chylch-lythyron Cymorth i Fenywod yng Nghymru Casgliad Margery LewisCasgliad mawr o ffotograffau, papurau, cardiau post, cartwnau, cylch-lythyron a baneri a gasglwyd gan Margery Lewis, aelod o grŵp Women for Life on Earth. Mae'n cynnwys hefyd beth defnydd cynharach CND. Casgliad Women for Life on EarthCasgliad arall enfawr o ddefnyddiau yn ymwneud â'r mudiad menywod dros heddwch yng Nghymru, yn enwedig gorymdaith Caerdydd-Greenham, yr orymdaith arweiniodd at ffurfio Gwersyll Heddwch Menywod Greenham, a digwyddiadau eraill yng Nghymru a Greenham. Rhoddwyd gan Ann Pettit.
Casgliad Permanent Waves 1992-1999Papurau gweinyddol, cylch-lythyron a hysbysebion a defnyddiau disgrifiadol ynglŷn ag arddangosfeydd celf yn Ne-Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar y gymdeithas gelfyddydol i fenywod (bellach wedi'i hail-enwi yn Gymdeithas Gelfyddydol Menywod).
Casgliad Sonia DaviesMae'r casgliad yn cynnwys posteri yn bennaf, yn dilyn marwolaeth Sonia Davies, cyn-aelod o AMC/WAW. Roedd Sonia yn ohebydd yn ymwneud yn agos â gweithgareddau mudiad y menywod yng Nghaerdydd yn y 1970au a'r 1980au, yn enwedig yn y maes cyfryngol. Casgliadau Eraill yn Archifdy MorgannwgCynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid, Cangen de CymruPapurau a defnyddiau eraill, 1965-1997. (gweler hefyd Casgliad Margery Lewis, Casgliad Women for Life on Earth a chasgliad Vanessa Priestley) Casgliad Vanessa Priestley, Gwersyll Heddwch Menywod Comin GreenhamCasgliad o ffotograffau, blanced a 3 baner yn ymwneud â Gwersyll Heddwch Comin Greenham, 1984. Rhwydwaith Lesbiaid HŷnCylch-lythyr a defnyddiau eraill 1993-2002. (Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw i'w darllen) Archif Menywod Cymru / Women's Archive of WalesCylch-lythyron, adroddiadau, papurau gweinyddol a.y.y.b., o gyfarfod Rhagfyr 1998 a arweiniodd at greu AMC, tan 2003. Bydd papurau eraill yn cael eu rhoi ar adnau o dro i dro.
|
||||||||
| © Archif Menywod Cymru / Women's Archive of Wales, 2005-2007 | |||||||||