|
|
|
|
Casgliadau - Tudalen o Gyflwyniad
Aelodau Cymorth i Fenywod Abertawe yn gwrthdystio i gefnogi llochesau ar gyfer menywod wedi'u curo, 1976. Atgynhyrchir y darlun trwy ganiatád caredig Jenny Lynn. Mae'n casgliadau, sydd ar gadw mewn Archifdai sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn amrywio o eitemau unigol i gasgliadau mawr o ddogfennau, lluniau, cylch-lythyron a defnyddiau eraill. Ein nod yw achub pob math o ddefnyddiau sy'n ymwneud â bywydau menywod yng Nghymru a sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cadwraeth priodol, ac sydd ar gael (yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau) i unrhyw un sydd â diddordeb. Ar hyn o bryd (2006) mae'n casgliad yn arbennig o gryf mewn defnyddiau yn ymwneud â'r mudiad menywod dros heddwch yn y 1980au a'r 90au, a'r mudiad rhyddid i fenywod yn y 1970au a'r 80au. Mae prosiect Rhwydwaith Archifau Cymru ar droed ar hyn o bryd i gofnodi'r prif gasgliadau archifyddol yng Nghymru, a phan fydd wedi'i gwblhau dylai fod yn bosibl chwilio am gasgliadau AMC/WAW ledled Cymru. Rhowch glic ar y cysylltiadau am enghreifftiau o ddefnyddiau yn ein casgliadau. Lawrlwytho PDF: |
| © Archif Menywod Cymru / Women's Archive of Wales, 2005-2007 | |