Casgliadau AMC / WAW yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU

Ffôn: 01970 632800

Ffacs: 01970 615709

E-bost: holi@llgc.org.uk

Gwefan: http://www.llgc.org.uk

Casgliad Menna Gallie

Rhif adnau A2000/67 / Côd Cyfeiriad GB210 MENGAL

Darlun - gweler y pennawd

Ffotograffydd anhysbys.

Ffotograff o Menna Gallie wedi'i atgynhychu trwy ganiatád caredig Annest Wiliam.

Ganwyd y nofelydd Menna Gallie yn 1920 ym mhentre glofaol Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, a chafodd ei magu yno, ac yn ddiweddarach yng Nghreunant. Roedd ei dau riant yn siarad Cymraeg, ei thad yn grefftwr o ogledd Cymru a'i mam yn wraig leol. Graddiodd yn 1940 mewn Saesneg o Goleg Prifysgol Abertawe ac yn yr un flwyddyn priododd Bryce Gallie, Albanwr a oedd yn ddarlithydd athroniaeth yn Abertawe. Ar ôl y rhyfel buon nhw'n byw mewn nifer o lefydd gwahanol gan gynnwys Gogledd Iwerddon, yr Amerig a Chaergrawnt. Symudon nhw'n ôl i Gymru yn 1978, i Drefdraeth, sir Benfro. Ymhlith chwe nofel Menna Gallie mae Strike for a Kingdom (1959), wedi'i lleoli yn ne diwydiannol Cymru, The Small Mine (1962), a Travels with a Duchess (1969), pob un wedi'u hailargraffu gan Honno. At hyn cyfieithodd nofel Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad (Full Moon) (1973).

Mae'r casgliad yn cynnwys drafftiau o'i nofelau, adysgrifiadau o sgyrsiau radio, erthyglau, adolygiadau, llythyron - gan gynnwys casgliad wedi'i ysgrifennu gan Bryce Gallie pan oedd e yn gwasanaethu yn y llu arfog yn ystod y rhyfel, gohebiaeth rhyngddi a Caradog Prichard, a phapurau personol eraill.

[tynnwyd o'r Cyflwyniad Cyffredinol i'r rhestr ddaliadau, luniwyd gan Nia Wyn Griffiths]

[Click for full-sized image]Un o bedwar drafft o sgwrs 'The Fear of God' [c1970], sy'n disgrifio Menna Gallie yn mynd yn ôl adre, tra roedd yn byw yng Nghaergrawnt, ac yn mynd i Gymanfa Ganu. Mae'r casgliad yn cynnwys copi adysgrifol hefyd o'r sgwrs hon a ddarlledwyd ar y radio.
[Click for full-sized image]Drafft o sgwrs gan Menna Gallie i Sefydliad y Merched, Ardglass, 1961, lle mae'n sôn am brofiadau ei phlentyndod yng Nghymru.
[Click for full-sized image]Drafft o anerchiad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Gweddi, Casnewydd, 1974

Casgliad Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal Cymru

Rhif Adnau A2001/67 / Côd cyfeiriad GB210 EOCW

Mae'r casgliad yn cynnwys yn bennaf doriadau papurau newydd wedi'u llungopïo, 1982-2001, yn ymwneud â materion yn perthyn i waith y Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal, Cymru. Gobeithio y bydd y Comisiwn yn parhau i ychwanegu defnyddiau perthnasol o bryd i'w gilydd.

Mae'r materion a drafodir yn cynnwys oedran, bwlian, gofal plant a mamolaeth, anabledd, gwahaniaethu, addysg, cyflogaeth, Ewrop, gwrywgydiaeth, iaith, gwleidyddiaeth, hiliaeth, crefydd, menywod llwyddiannus, hyfforddiant, menywod mewn cyflogaeth, menywod ym maes chwaraeon, a menywod yn y celfyddydau. Mae toriadau hefyd yn ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Diwrnod Rhyngwladol Menywod, ac Adfywio'r Cymoedd.

[Tynnwyd o Restr Ddaliadau LLGC, lluniwyd gan Martin Robson Riley]