|
|||||||||||||||
|
|
Casgliadau AMC/WAW yn Archifdy Gorllewin MorgannwgNeuadd y Sir, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN Ffôn: 01792 635589 Ffacs: 01792 637130 E-bost: westglam.archives@swansea.gov.uk Gwefan: http://www.swansea.gov.uk/westglamorganarchives/ Papurau Gweithredwyr Mudiad Rhyddid i Fenywod yn Ne Cymru, a Mudiad Menywod dros Heddwch, 1970-1996Casgliad Deborah ChecklandYn cynnwys defnyddiau ar Ganolfan Menywod Abertawe, cylch-lythyr a chylchgrawn y Mudiad Menywod dros Heddwch, papurau cynadleddau a.y.y.b.
Casgliad Jenny LynnYn cynnwys defnyddiau yn ymwneud â'r Mudiad Menywod dros Heddwch yn Abertawe yn y 1970au, papurau trafod, papurau cynadleddau a.y.y.b. yn ymwneud â gweithgareddau yn ne Cymru a mudiad ehangach y menywod.
Casgliad Ursula MassonYn cynnwys cylch-lythyron, taflenni, gohebiaeth a.y.y.b. yn ymwneud â'r mudiad heddwch, Canolfan Menywod Abertawe, Materion ffeministaidd ym meysydd addysg, gwleidyddiaeth a hanes.
Casgliad Alison ScoullerYn cynnwys cylch-lythyron, toriadau papurau newydd, a defnyddiau eraill yn ymwneud â'r WLM yn Abertawe, a materion ffeministaidd ehangach.
Casgliad Denise LavisYn cynnwys ffotograffau, toriadau papurau newydd, bathodynnau yn ymwneud â Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham, a materion CND eraill.
Hefyd yn Archifdy MorgannwgCyngor Ymgynghorol Menywod Llafur gorllewin CymruLlyfrau cofnodion 1937-42 a 1942-1957
Casgliad Paulette PelosiCasgliad o albymau a gadwyd gan fenywod ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed. Casgliad Val FeldRhoddwyd y casgliad eang hwn o ddefnyddiau o eiddo'r diweddar Val Feld i'r Archif gan ei theulu a'i ffrindiau a chyda'u caniatâd fe'u rhoddwyd ar adnau yn Archifdy Gorllewin Morgannwg. Mae AMC / WAW a'r rhoddwyr wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Archifdy i ddosbarthu a chatalogio'r casgliad cyn y bydd ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol. Cewch ragor o wybodaeth am hyn eto. |
||||||||||||||
| © Archif Menywod Cymru / Women's Archive of Wales, 2005-2007 | |||||||||||||||