Blog

Newyddion a Digwyddiadau

DIGWYDDIADAU SYDD AR DDOD:

14edd CYNHADLEDD FLYNYDDOL A CHYFARFOD BLYNYDDOL 2011 - 'FE ORCHFYGWN NI'

DYDD SADWRN 15fed - DYDD SUL 16fed HYDREF

Y GALERI, CAERNARFON

Ffurflenni archebu lle a manylion pellach ar gael nawr.

Galw am Bapurau - PDF - Word

Ffurflen Archebu - PDF - Word

Rhaglen - PDF - Word

Digwyddiadau'r gorffennol

CYNHADLEDD FLYNYDDOL A CHYFARFOD BLYNYDDOL 2010

Bu’r 13eg Gynhadledd Flynyddol, a ddychwelodd i leoliad y gyntaf yn 1998, yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, yn ddigwyddiad hynod o lwyddiannus unwaith eto.

Roedd y rhaglen yn rhedeg dros ddau ddiwrnod, gyda chinio (eto yng Nghanolfan Dylan Thomas) ar y nos Sadwrn, ac a oedd yn cynnwys taith gerddorol bleserus gan Jen Wilson (Jazz Heritage Wales).

Roedd y siaradwyr yn gymysgedd o academwyr profiadol, ymchwilwyr ifanc ac ychydig yn hŷn, a oedd yn gallu cyflwyno papurau byrion ar eu hymchwil i gynulleidfa gyffredinol gefnogol, ac eraill yr oedd ganddyn nhw bethau diddorol i’w dweud am amryfal agweddau ar hanes menywod yng Nghymru. O ganlyniad cafwyd rhaglen amrywiol ryfeddol ac a oedd yn cynnig rhywbeth at ddant pob un yn y gynulleidfa.

Nod y gynhadledd oedd cyflwyno fforwm groesawgar i bobl sy’n frwdfrydig o blaid hanes menywod yng Nghymru i ddod ynghyd a gwrando ar ystod o bapurau diddorol. Dangosodd y nifer mawr o sylwadau brwdfrydig a gwerthfawrogol gan y mynychwyr – yn fenywod a dynion, academwyr ac eraill, o rychwant oedran a diddordebau eang – pa mor llwyddiannus y bu hynny. -

 

Bydd ein Llywydd, yr Athro Deirdre Beddoe yn traddodi’r Ddarlith Goffa Ursula Masson gyntaf am 6.00 y.h. ar ddydd Llun 9fed Mawrth yng Nghanolfan Fusnes Morgannwg, Prifysgol Morgannwg, Pontypridd.
Testun y ddarlith fydd ‘Women and Change in Twentieth-Century Wales’; hon fydd y gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd i’w cynnal ar neu tua Diwrnod Rhyngwladol Menywod bob blwyddyn er cof am Dr Ursula Masson (1945-2008), uwch-ddarlithydd mewn Hanes ym Morgannwg ac un o sylfaenwyr Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales. Mae’r ddarlith ar agor i’r cyhoedd yn ogystal ag i aelodau’r Brifysgol ac AMC/WAW.
Ceir lluniaeth ysgafn am 5.30y.h., ac yn dilyn  y ddarlith croesewir y gynulleidfa i ymuno mewn bwffe yn y Ganolfan.

Mae gwybodaeth am y digwyddiad hwn ar wefan ‘Inform’ Prifysgol Morgannwg (ynghyd â darlun o Ursula) http://inform.glam.ac.uk/events/2009/03/09/ursula-masson-memorial-lecture/

 

Ursula Masson (ne O’Connor) 1945-2008


Atgynhyrchir y darlun trwy ganiatád caredig Colin Molyneux

Roedd Ursula yn fenyw ryfeddol y byddwn i gyd yn gweld ei cholli yn fawr. Heb Ursula ni fyddai Archif Menywod Cymru yn bodoli o gwbl. Ei syniad hi oedd e. Ac ni fyddai Prosiect Sioeau ar Daith: Hanes Menywod ychwaith – unwaith eto ei hawgrym ysbrydoledig hi oedd rhedeg cyfres o sioeau ar daith ar hanes menywod. Ac wrth gwrs bu Ursula yn gwasanaethu fel ein Cadeirydd am gryn gyfnod.

Roedd Ursula yn ysgolhaig a hanesydd ffeminyddol gwych. Ei phrif ddiddordeb oedd hanes gwleidyddol menywod yng Nghymru. Ysgrifennodd yn helaeth ar bwnc cymhleth y mudiad rhyddfreinio menywod yng Nghymru a chafodd ei doethuriaeth am waith ar ‘Welsh Women Liberals 1883-1914’.

Yr oedd, yn ogystal, yn addysgwraig uchel iawn ei pharch, â’i myfyrwyr yn ei charu. Ymysg y llu teyrngedau sy wedi llifo i'r Archif ers marwolaeth Ursula ar Ebrill 7fed mae sawl un gan fyfyrwragedd aeddfed yn canmol ei hamynedd a’r gefnogaeth ddi-feth a gawsant ganddi.

I ni, aelodau’r Archif, er hynny, rydym yn colli ffrind a chwaer annwyl. Rydym yn gweld ei cholli eisoes ac mae’n anodd dygymod â hynny. Mae ein meddyliau gyda theulu Ursula yn ystod y cyfnod hynod drist hwn.

Deirdre Beddoe

 

Digwyddiadau i ddod

Arddangosfa Sioeau ar Daith Archif Menywod Cymru, Amgueddfa’r Glannau, Abertawe Awst 11eg tan Medi 12fed 2008


Margery Edmunds
Atgynhyrchir y darlun trwy ganiatád caredig Paulette Pelosii

Os cewch chi gyfle, galwch yn Amgueddfa’r Glannau i weld ein harddangosfa, ar y llawr cyntaf.

Mae’r arddangosfa’n egluro gwaith yr Archif yn glir ac yn dangos cynnydd cyfredol ein prosiect uchelgeisiol, Sioeau ar Daith – Hanes Menywod Cymru a ariennir trwy grant treftadaeth y loteri. 

Daeth bron i gant o bobl i’r agoriad swyddogol ar 11eg Awst ac roedd eu hymateb yn frwdfrydig ac yn galonogol iawn i’r rhai ohonom sy’n gysylltiedig â phrosiect y Sioeau ar Daith. Mynychwyd yr agoriad gan urddasolion dinesig, gan gynnwys Arglwydd Faer Abertawe a Maer Llanelli ac agorwyd yr arddangosfa gan Edwina Hart, Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd Lindsay Cuddy o Gronfa Treftadaeth y Loteri yn bresennol i gefnogi’r fenter hon hefyd.

Mae’r arddangosfa’i hun yn hyfryd, gan ei bod yn dangos detholiad o’r darluniau o’r Sioeau ar Daith a gynhaliwyd hyd yn hyn. Ceir delweddau o’r Sioeau eu hunain yn dangos ein harbenigwyr wrth eu gwaith, ond y defnyddiau sy’n cipio’r dychymyg yw’r casgliad o ddarluniau y mae’r Sioeau wedi’u datguddio. Ceir delweddau arbennig o fenywod o Gymru yn ystod y ddau Ryfel Byd – gyda nyrs VAD a ‘conductress’ ar y bysys o’r Rhyfel Byd Cyntaf a darluniau gwefreiddiol o Marjorie Edmunds o Lanelli: gweithiodd Marjorie fel peiriannydd yn gwasanaethu awyrennau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Profa’r arddangosfa hon yn eglur werth digamsyniol prosiect y Sioeau ar Daith ac mae’r delweddau ynddi yn llawn gwybodaeth ac eto’n hardd ac yn gyffrous.

Deirdre Beddoe.

Digwyddiadau sy wedi bod

Hanes Llafar & Hanesion Menywod

Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol 2007, Prifysgol Bangor, 10-11 Tach.

Eleni, am y tro cyntaf, symudodd y Cyfarfod a’r Gynhadledd Flynyddol i Ogledd Cymru, i Brifysgol Bangor, diolch i’r Athro Duncan Tanner a Dr Pamela Michael, a sicrhaodd y lleoliad ac a helpodd i drefnu’r digwyddiad.

Bu’r penwythnos yn hynod lwyddiannus gyda sgyrsiau diddorol gan Catrin Stevens (Hanes Menywod Cymru 1920-60: Prosiect Hanes Llafar Merched y Wawr), Marian Gwyn (Sugar and Slavery: The Penrhyn Connection), ein Llywydd, Deirdre Beddoe (The Amazing Life of Betsy Cadwaladyr) a Duncan Tanner (Women’s History and Oral History in Wales: Some New Opportunties). Cafwyd amser hefyd i rwydweithio a chymdeithasu (gan gynnwys cinio arddechog ym Mwyty Herbs), cyfle i wario arian ar stondin godi arian i’r archif, stondin lyfrau,a chyfle i gwrdd â gweithwyr y prosiect Sioeau ar Daith, a siaradodd am y prosiect mewn sesiwn ar y dydd Sul.

Mewn cyfarfod brwdfrydig ddydd Sul dechreuwyd ar y broses o sefydlu rhwydwaith Gogledd Cymru AMC/WAW

Cyswllt Shan Ashton, s.ashton@bangor.ac.uk, Ffôn 01248 383224 neu Annie Williams, anniewilliams@uppergarth.fsnet.co.uk am ragor o wybodaeth.

Darlun - gweler y pennawd

Mynychwyr yn mwynhau cinio ym mwyty Herbs

Codi Arian I’r Archif

Mae rhai aelodau yn ardal Abertawe wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn yn codi arian ar gyfer cronfa gyffredinol yr archif trwy amrywiaeth o weithgareddau gwahanol.

Mae’r rhain yn cynnwys stondinau mewn ffeiriau elusen, arwerthiannau pen bwrdd, mewn digwyddiad ar gyfer mudiadau i fenywod yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, gwerthu planhigion yng ngerddi aelodau neu yn y gweithle, aelod yn garddio ac yn rhoi cyfran o’i thal i’r Archif, ac yn olaf stondin hynod lwyddiannus yn y Gynhadledd a’r Cyfarfod Blynyddol ym Mangor ym mis Tachwedd.

Mae’r digwyddiadau hyn wedi codi dros £1000 o elw mewn ychydig dros wyth mis – swm sy’n sicr o gymorth gyda chostau cyffredinol yr archif sy’n gwbl ddibynnol ar danysgrifiadau, rhoddion a gweithgareddau codi-arian cyffelyb i gyflawni’r holl waith ac eithrio’r Prosiect Sioeau ar Daith (a gyllidir ar wahan).

Gobeithio y bydd aelodau eraill yn dymuno gwneud rhywbeth tebyg – mae’n gyfle i gwrdd â phobl eraill yn eich ardal ac mae’n hwyl!

Cysylltwch ag Angela Brunt (angela.brunt@ntlworld.com neu ffôn 01792 233482) os oes gennych awgrymiadau neu gwestiynau perthnasol i ddigwyddiadau codi arian.

Darlun - gweler y pennawd

Arwerthiant planhigion ar gyfer cyllid yr archif, Gorffennaf 2007

Darlun - gweler y pennawd

Angela Brunt gyda’r stondin godi arian, Cynhadledd Flynyddol, Bangor, Tachwedd 2007

Sioe Ben-ffordd Hanes Lesbaidd

24ain Chwefror 2007, Yr Hen Lyfrgell Caerdydd
Darlun - gweler y pennawd

Casgliad Avril Rolph o ddefnyddiau am hanes lesbiaid.

Mae’r defnyddiau wedi’u casglu ers diwedd yr 1960au. Maen nhw’n cynnwys cylchgronau fel Arena 3 (y cylchgrawn lesbaidd Prydeinig cyntaf), Move (cylchgrawn lesbaidd a gynhyrchwyd ym Mryste yn yr 1970au/80au), Lunch (CHE – cylchgrawn yr ymgyrch dros hawliau cyfartal i Hoywon), Kenric Newsletter (grwp lesbaidd cenedlaethol a ddechreuodd ganol yr 1960au), papurau newydd lleol, a defnyddiau ymgyrchoedd e.e. yn erbyn Adran 38. Mae’n cynnwys hefyd ddefnyddiau yn ymwneud â gwaith Avril Rolph mewn mudiadau megis Lesbiaid mewn Llyfrgelloedd (Llundain, 1980au) a chopïau o lyfrau a phamffledi y mae wedi’u cynhyrchu.

Darluniau trwy garedigrwydd Paulette Pelosi.

Ysgol Un-dydd ar y cyd rhwng Archif Menywod Cymru a Llafur, yn Amgueddfa Pontypridd, dydd Sadwrn 11eg Tachwedd 2006

Menywod a Gwleidyddiaeth yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif

Ymunodd tua 60 o bobl ag Archif Menywod Cymru mewn ysgol un-dydd lwyddiannus iawn ar y cyd â LLafur, Cymdeithas Hanes Gweithwyr Cymru yn Amgueddfa Pontypridd ar 11eg Tachwedd. Cafwyd rhaglen lawn ac eang ei chwmpas o gyflwyniadau gan haneswyr profiadol yn ogystal â chan fyfyrwyr mwy diweddar.

Aeth Ryland Wallace ar drywydd y mudiad rhyddfreinio menywod yng Nghymru, gan ffocysu ar gyfraniad Rachel Barrett o Gasnewydd, ‘trefnydd swffragetiaid, gohebydd, a chynllwynwraig’. Olrheiniodd Katrina Gaas waith cynghrair ryngwladol menywod dros heddwch a rhyddid yng Nghymru o 1915 tan brotest Comin Greenham, a ddechreuwyd gan grŵp o fenywod o Gymru yn 1981. Deliodd Avril Rolph â datblygiad y mudiad rhyddid i fenywod yn ne Cymru o’i gyfnod cynnar yn yr 1970au, cyflwyniad a ysgogodd sawl cyfraniad gloyw o’r gynulleidfa, gan rai a oedd am rannu’u hatgofion personol nhw o’r dyddiau cynnar hynny.

Ar ôl cinio ffocysodd Lowri Newman ar adrannau’r menywod yn y Blaid Lafur a oedd yn weithredol ledled de Cymru rhwng 1918 a 1939, gan gynnwys eu cefnogaeth i fenywod a’u cymunedau yn ystod cau allan y glowyr yn 1926. Aeth Helen Thomas ar drywydd tystiolaeth newydd fod dros 120 cangen o’r Women’s Co-operative Guild yng Nghymru, y cyntaf ohonynt wedi agor yng Nghasnewydd yn 1891. Trafododd Christine Chapman, AC, sut y defnyddiodd, yn gyntaf y Blaid Lafur, ac yna Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhestri byrion o fenywod-yn-unig a chwotâu i hybu nifer y menywod i’w hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Daeth Deirdre Beddoe â’r dydd i ben gyda rhagolwg o gyfraniad menywod i wleidyddiaeth yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru’r ugeinfed ganrif.

Helen Thomas

Darlun - gweler y pennawd

AMC / WAW AGM 2006

l-r: Avril Rolph (Sec), Ursula Masson (Chair), Deirdre Beddoe (President) (standing), Gail Allen (Treasurer)

Cyfarfod Blynyddol 2005
Darlun - gweler y pennawd

Y siaradwraig oedd yr Athro Angela John (ar y chwith) a darllenodd Annest Wiliam, cyfnither Menna Gallie, ddarn o un o'i llyfrau.

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol 2005 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Yn ystod y bore bu’r hanesydd ffeminyddol adnabyddus, yr Athro Angela V. John yn siarad â chynulleidfa niferus yn theatr ddarlithio newydd Drwm, am fywyd a gwaith ei ffrind, y diweddar nofelydd Menna Gallie, yn y ddarlith ‘Place, Politics and History: the life and novels of Menna Gallie’. Darllenodd yr actores a’r cyfieithydd, Annest Wiliam, cyfnither Menna Gallie, ddarnau o’r nofelau. Dwedodd llawer o’r rhai oedd yn bresennol gymaint yr oedden nhw wedi mwynhau’r digwyddiad a chytunwyd fod y ddarlith a’r darlleniadau yn rhagorol. Ymunodd nifer o aelodau newydd â’r archif. Bydd darlith yr Athro John yn cael ei chyhoeddi maes o law mewn rhifyn o’r cylchgrawn Llafur.

Tachwedd 2005
Darlun - gweler y pennawd

Mike Hodgson, Archifdy Morgannwg, yn egluro technegau cadwraethol yn Sioe ar Daith Hanes Menywod, rhan o ddigwyddiadau 'Eich Gorffennol, Eich Dyfodol' I ddathlu trigain mlwyddiant diwedd yr Ail Ryfel Byd, yn Amgueddfa Abertawe, Tachwedd 2005.

Darlun - gweler y pennawd

Jenny Sabine, Avril Rolph a Gail Allen o flaen arddangosfa'r archif, Neuadd y Sir, Abertawe, Hydref 2005.

Bu AMC/WAW yn cymryd rhan hefyd yn Niwrnod Agored Hanes Teulu Morgannwg yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd yn Nhachwedd 2005.

Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2004 a Sioe Ben-ffordd

Fe'i cynhaliwyd eleni ar 22 Hydref yn Amgueddfa Abertawe, a chyfunwyd y CBC traddodiadol â sioe ben-ffordd yr archif ei hun.

Y siaradwyr oedd Susan Edwards, Archifydd Morgannwg ac un o sylfaenwyr AMC/WAW, a Clare Stoughton-Harris, ceidwad tecstilau sy'n gweithio bellach i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Daeth aelodau ag amrywiaeth o ddefnyddiau diddorol i'r sioe ben-ffordd, gan gynnwys ffrog gymundeb cyntaf hynod o hardd, darluniau diddorol tu hwnt, gan gynnwys casgliad (sy bellach yn Archifdy Morgannwg) yn coffáu gyrfa mam aelod yn dysgu ddechrau'r ugeinfed ganrif, a (gan aelod o'r cyhoedd) darn o ddefnydd wedi'i frodio ac mewn cyflwr ardderchog, a oedd yn atgof o'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yr oedd e wedi'i ddarganfod yn gorwedd ar y llawr mewn arwerthiant cist car. Mae hanes menywod yn wir ym mhob twll a chornel!

Darlun - gweler y pennawd

Aelodau yn edrych ar frodwaith o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Sioe Ben-ffordd.

Atgynhyrchir y lluniau trwy ganiatád caredig Paulette Pelosi.