Ynglŷn â'r Archif

Mae Archif Menywod Cymru yn bodoli i hyrwyddo astudio, achub a chadw ffynonellau am hanes menywod yng Nghymru.

Mae'r dasg o adfer hanes menywod yng Nghymru yn fater o frys gwirioneddol. Mae'r broses weithredol o ddod o hyd i, achub a chadw ffynonellau hanesyddol, sy'n taflu goleuni ar fywydau menywod, yn ganolog i'r dasg o ailhawlio ein hanes arbennig ni fel menywod. Ni allwn ailadeiladu'n gorffennol heb ffynonellau hanesyddol dilys.

Rydym yn casglu rhychwant eang o ffynonellau archifyddol, ffotograffig a defnyddiau eraill, sy'n darlunio hanes a threftadaeth menywod yng Nghymru, a'u profiadau mewn ystod o feysydd gan gynnwys meysydd gwleidyddol, domestig, crefyddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol. Rydym yn chwilio yn arbennig am ddyddiaduron, llyfrau lloffion, llyfrau cofnodion mudiadau menywod, llawysgrifau llenyddol, ffotograffau a defnyddiau tebyg. Y gall ymchwilwyr eu gweld, onibai bod cyfyngiadau ar y casgliad. (Gweler y Polisi Casgliadau am ragor o wybodaeth.)

Darlun - gweler y pennawd

Cerdyn post a gynhyrchwyd ar gyfer gorymdaith heddwch WFLOE. Artist anhysbys.

Rhan o Gasgliad Margery Lewis yn Archifdy Morgannwg.