Mae Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales yn hyrwyddo adnabod menywod yn hanes Cymru a diogelu ffynonellau hanes menywod yng Nghymru.
Rydym yn gwneud hyn trwy:
Newyddion & Digwyddiadau

Darlith Goffa Ursula Masson 2021
8 Mawrth 2021
Gaynor Legall, ‘Gwneud iawn: Edrych o’r newydd ar hanesion poblogaeth Ddu a lleiafrifoedd ethnig Cymru.’ Mae’r ddarlith ar-lein hon, am ddim. Gallwch archebu tocyn yn Eventbrite trwy ddilyn y dolen isod. Noddir y darlith gan AMC. Croeso cynnes i bawb.
Darllen mwy
Darlith Zoom
4 Mawrth 2021
Ymunwch â ni ar gyfer ein darlith Zoom nesaf yn y gyfres boblogaidd hon pan fydd Dr Chris Chapman yn traddodi darlith ar ‘Women in mid-twentieth century Rhondda’ ar ddydd Iau 4 Mawrth am 4 o’r gloch .
Darllen mwy
Bwrsari Avril Rolph 2021
21 Chwefror 2021
Roedd Avril Rolph (1945-2018) yn hanesydd feminyddol ac yn un o sylfaenwyr Archif Menywod Cymru. Gwasanaethodd yn Ysgrifennydd a Chadeirydd yr Archif a phan fu farw yn 2018 roedd yn Is-lywydd Anrhydeddus. Dymuna’r Archif anrhydeddu’r cof amdani trwy’r Bwrsari hwn.
Darllen mwy
Cynhadledd 2021 - Galw am Bapurau
21 Chwefror 2021
Cynhelir Gynhadledd eleni ar ddydd Sadwrn, 2il Hydref a dydd Sul 3 Hydref 2021 ym Mhrifysgol Bangor ac/neu yn rhithiol – yn dibynnu ar y pandemig.
Darllen mwyHelpwch i gefnogi Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales
Pam nad ymunwch chi neu roi cyfraniad at ein cyllid?