Newyddion & digwyddiadau
Gwelwch beth yw’r diweddaraf yn AMC. Defnyddiwch y dolenni ar y ddewislen ar y chwith i weld y digwyddiadau sydd ar y gweill a rhai’r gorffennol.
Teithiau Cerdded Treftadaeth Menywod
28 Ebrill 2021
Rydym yn lansio cyfres o lyfrynnau Teithiau Cerdded Treftadaeth Menywod ar ddydd Mercher 28ain Ebrill am 2 o’r gloch, i dynnu sylw at dros 100 o fenywod neu grwpiau o fenywod mewn 11 tref wahanol ledled Cymru.
Darllen mwy
Darlith Zoom
24 Mawrth 2021
Traddodir darlith olaf ein cyfres lwyddiannus iawn o ddarlithoedd Zoom y gaeaf hwn gan Catrin Stevens ar ddydd Mercher 24ain Mawrth am 4.00 o’r gloch. Ei phwnc fydd ‘Oedd eich Nain/Mam-gu chi yn un ohonyn nhw? Trefnwyr Lleol Deiseb Heddwch y Menywod 1923-4’.
Darllen mwy
Bwrsari Avril Rolph 2021
21 Chwefror 2021
Roedd Avril Rolph (1945-2018) yn hanesydd feminyddol ac yn un o sylfaenwyr Archif Menywod Cymru. Gwasanaethodd yn Ysgrifennydd a Chadeirydd yr Archif a phan fu farw yn 2018 roedd yn Is-lywydd Anrhydeddus. Dymuna’r Archif anrhydeddu’r cof amdani trwy’r Bwrsari hwn.
Darllen mwy