jump to content

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Dyddiad Digwyddiad:24 Tachwedd - 25 Tachwedd

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Adroddiad ar Gynhadledd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: Tachwedd 24ain a 25ain

 

Ffoto: Jenny Sabine a Margaret Vaughan, gor-or-nith Alice Abadam gyda’r plac iddi ar Neuadd Middleton yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol

 

Roedd Archif Menywod Cymru yn bartner yn y digwyddiad hwn a diolch yn fawr i Angharad Phillips a swyddogion yr Ardd Fotaneg am ysgwyddo llawer o’r trefniadau. Cyfrannon ni arddangosfa ar ein prosiectau cynnar: prosiect Sioeau ar daith a phrosiect Menywod a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd sawl darlith ddiddorol  ar Fenywod Middleton ar y dydd Sadwrn, yn eu plith un gan Mary Thorley, un o aelodau AMC, am Alice Abadam, fu’n byw yn Neuadd Middleton ac a fu’n swffragist allweddol yn teithio a chenhadu dros hawliau menywod ledled Lloegr a’r Alban. Olrheiniodd Hannah Jones rai o’r problemau a wynebodd menywod Middleton o safbwynt etifeddiaeth a soniodd Penny David am Annie Gulvin a fu’n brif arddwraig gerddi Isgoed ger Glan-y-fferi, am rai blynyddoedd. Braf oedd clywed hefyd am waith Clwb Archeolegwyr Ifanc yr Ardd a’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i adfer llynnoedd a thirlun gwreiddiol y stad. Jenny Sabine a Catrin Stevens fu’n trafod pwysigrwydd a chyfraniad Archif Menywod Cymru yn codi proffil menywod yn hanes Cymru ac yn diogelu ffynonellau’r hanes hwnnw.  Soniwyd am ein prosiectau llwyddiannus a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y loteri yn bennaf, sef y ‘Sioeau ar Daith’, ‘Menywod a’r Rhyfel Byd Cyntaf’, ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’ a’r prosiect cyfredol ‘Canrif Gobaith’

Uchafbwynt y diwrnod er hynny oedd pan ddadorchuddiodd Margaret Vaughan, gor-or-nith Alice Abadam blac glas er cof amdani ar fur blaen Neuadd Middleton.

Roedd y dydd Sul wedi ei drefnu ar y cyd â Phrifysgol Bangor ar y thema ‘Patrymau  Patriarchaidd: Swyddogaethau a Phrofiadau Merched ar ystadau tiriog Cymru a thraddododd yr Athro Kirsty Bohata a Mary Chadwick am Rywedd, llenyddiaeth a hunaniaeth cyn i ni gael ein tywys i erddi teulu Dillwyn Llewelyn ym Mhenllergare (gan Jennie Eyers); i stad Highmead a dilyn gweithgarwch Anne Evans yno (gan Jean Reader) ac yna i ddysgu am gyfraniadau Arglwyddesau Môn yn casglu sbesimenau (gan Ffion Mair Jones). Yn y prynhawn ystadau Rhug a Bachymbyd oedd dan chwyddwydr Sadie Jarrett a dadlennodd Helen Williams-Ellis hanes difyr a llawn Catrin o Ferian yn yr unfed ganrif ar ddeg. Daeth y Gynhadledd i ben gyda dathliad o hanes menywod plasty Llanerchaeron, Ceredigion.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Am fanylion llawn, rhaglen a gwybodaeth cofrestru, ewch at wefan yr Ardd Fotaneg Cymru, os gwelwch yn dda:

https://garddfotaneg.cymru/visit/whats-on/cynhadledd-pleidlais-i-ferched/